Llyfr
Fel arfer, mae llyfr yn golygu testun wedi ei sgrifennu neu ei argraffu ar bapur sydd wedi ei rwymo mewn clawr. Ers rhai blynyddoedd mae e-lyfrau ar gael, sef llyfrau ar ffurf meddalwedd y gellir eu darllen gan beiriant arbennig. Daw'r enw Cymraeg "llyfr" o'r Lladin "liber".[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sgrifennwyd y "llyfrau" cyntaf ar glai, papurfrwyn neu femrwn. Cyn dyfeisio'r wasg argraffu, roedd pob llyfr yn llawysgrif a felly yn gostus iawn i'w gynhyrchu ac fel arfer wedi eu hysgrifennu gan fynachod. O ganlyniad, dim ond eglwysi, prifysgolion a phobl cyfoethog oedd yn berchen ar lyfrau. Un o lawysgrifau hynaf Cymru i oroesi yw Llyfr Du Caerfyrddin (12g).
Dyfeisiwyd y wasg argraffu gyntaf yn y Dwyrain Pell ganrifoedd cyn i Ewrop ei dyfeisio. Y llyfr argraffedig hynaf yw'r Swtra Diemwnt. Roedd rhaid cerfio'r dudalen cyfan ar astedd bren, a oedd yn waith caled iawn. Pi Sheng a ddefnyddiodd llythrennau symudol gyntaf tua 1045 yn Tsieina, ond does dim un o'r llyfrau a argraffodd wedi goroesi.
Yn Ewrop, dyfeisiwyd yr argraffwasg gyntaf gan Johannes Gutenberg (tua 1450). O ganlyniad, roedd llyfrau yn rhatach nac erioed ac o ganlyniad roedd yn haws dosbarthu gwybodaeth.
Mathau o lyfrau
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lewis, Henry. 1943. Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.41