Gwyddeleg
Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).
Gwyddeleg | ||
---|---|---|
Gaeilge | ||
Siaredir yn | Gweriniaeth Iwerddon (1.77 miliwn)[1] Y Deyrnas Unedig (95,000) America (18,000) Yr Undeb Ewropeaidd (iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd) | |
Rhanbarth | Gaeltachtaí, ond siaredir ar draws Iwerddon gyfan | |
Cyfanswm siaradwyr | 391,470 rhugl neu siaradwyr brodorol (1983)[2] Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 1.77 miliwn o bobl (3 oed a throsodd) yn y Weriniaeth yn gallu siarad Gwyddeleg[1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
| |
System ysgrifennu | Lladin (Amrywiad ar yr Wyddeleg) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Gweriniaeth Iwerddon Yr Undeb Ewropeaidd | |
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn | Y Deyrnas Unedig -Gogledd Iwerddon | |
Rheoleiddir gan | Foras na Gaeilge | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | ga | |
ISO 639-2 | gle | |
ISO 639-3 | gle | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Hanes
golyguDatblygodd yr Wyddeleg o'r iaith Geltaidd hynafol a elwir yn Oedeleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goedelaidd eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol yr Wyddeleg a'r Aeleg yn deillio o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.
Sefyllfa heddiw
golyguMae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.
Blwyddyn | Nifer y siaradwyr Gwyddeleg | Canran y siaradwyr Gwyddeleg |
---|---|---|
1861 | 1,077,087 | 24.5 |
1871 | 804,547 | 19.8 |
1881 | 924,781 | 23.9 |
1891 | 664,387 | 19.2 |
1901 | 619,710 | 19.2 |
1911 | 553,717 | 17.6 |
1926 | 543,511 | 18.3 |
1926 | 540,802 | 19.3 |
1936 | 666,601 | 23.7 |
1946 | 588,725 | 21.2 |
1961 | 716,420 | 27.2 |
1971 | 789,429 | 28.3 |
1981 | 1,018,413 | 31.6 |
1986 | 1,042,701 | 31.1 |
1991 | 1,095,830 | 32.5 |
1996 | 1,430,205 | 41.1 |
2002 | 1,570,894 | 41.9 |
2006 | 1,656,790 | 40.8 |
2011 | 1,774,437 | 40.6 |
Sail: Iwerddon gyfan at 1926, y Weriniaeth ers hynny[3]
Rhai geiriau Gwyddeleg
golygu- Bó - buwch
- Fear - dyn
- Duine - bod dynol
- Gealach - lleuad (lloer)
- Grian - haul
- Sliabh - mynydd
- Trá - traeth
- Maith - da
- Glan - glân
- Beag - bach
- Mór - mawr
- Leabhar - llyfr
- Gorm - glas
- Glas - gwyrdd
- Dubh - du
- Tine - tân
- Am - amser
- Aimsir - tywydd
Rhai ymadroddion
golygu- Dia Dhuit - siwmai / sut mae?
- Conas atá tú? - sut wyt ti? /sut ydych chi?
- An-mhaith - da iawn
- Go raibh maith agat - diolch
- Mise freisin - finnau hefyd
- B'fhéidir - efallai
- Níl a fhios agam - Dw i ddim yn gwybod / Wn i ddim
- Ba mhaith liom... - Hoffwn i...
- Cad is ainm duit? - Beth yw'ch enw chi?
- Seán is ainm dom - Fy enw i yw Seán
- Is mise Seán - Seán wyf i
- Le do thoil - os gwelwch yn dda
- Ní thuigim - Dw i ddim yn deall
- Nílim cinnte - Dw i ddim yn siŵr
- Cá bhfuil an t-ostán? - Ble mae'r gwesty?
- An dtuigeann tú Gaeilge?" - Wyt ti'n deall Gwyddeleg?
- Tuigim beagán Gaeilge." - Rwy'n deall tipyn bach o Wyddeleg
- Is breá liom.. - Rwy'n hoffi...
- Tá sé fuar inniú - Mae hi'n oer heddiw.
- Tá brón orm - Mae'n flin gyda fi / mae'n ddrwg gen i
- Slán - Hwyl
Cymariaethau â Chymraeg
golyguY Rhifau
Cymraeg | un | dau | tri | pedwar | pump | chwech | saith | wyth | naw | deg |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | aon | dó | trí | ceathair | cúig | sé | seacht | ocht | naoi | deich |
Rhagenwau
Cymraeg | fi/i | ti | fe/e | hi | ni | chi | nhw |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | mé | tú | sé / é | sí / í | sinn | sibh | iad |
Meddiant
Cymraeg | fy nhŷ | dy dŷ | ei dŷ | ei thŷ | ein tŷ | eich tŷ | eu tŷ |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | mo theach | do theach | a theach | a teach | ár dteach | bhur dteach | a dteach |
Gw - F
Cymraeg | gŵr | gwyn | gwell | gwin | gwlyb | gwir | gwan | gwyddbwyll | gwylan |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | fear | fionn (golau) | fearr | fíon | fliuch | fíor | fann | ficheall | faoileán |
P - C
Cymraeg | pa | pwy | pen | pedwar | pump | plant | mab | Pasg | pawb | pren |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | cad | cé | ceann | ceathair | cúig | clann | mac | Cáisc | cách | crann |
H - S
Cymraeg | haul | halen | haf | hen | hynny | hi |
---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | súil (llygad) | salann | samhradh | sean | sin | sí |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Lexicelt: geiriadur ar-lein Cymraeg-Gwyddeleg
- Gwefan swyddogol Foras na Gaeilge (Bwrdd yr Iaith Wyddeleg)
- Cymdeithas Cyfieithwyr Gwyddeleg Archifwyd 2006-12-31 yn y Peiriant Wayback (Cumann Aistritheoirí agus Teangairí na hÉireann)
- Wicitestun Gwyddeleg
- Gwyddeleg ar y rhyngwyd Archifwyd 2005-07-19 yn y Peiriant Wayback (Gaeilge ar an ghréasán)
- Geiriadur termau Gwyddeleg (Focal.ie)
- Papur newydd wythnosol (Foinse )
- Myfyrwyr Gwyddeleg (Daltaí na Gaeilge)
- Gaelscoileanna - addysg drwy gyfrwng yr Wyddeleg
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |