Wicimedia DU
Wicimedia DU neu Wikimedia UK ydy siapter Wikimedia ar gyfer gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Amcan a gwaith Wicimedia DU, sy'n elusen cofrestredig, yw cynorthwyo i gasglu, datblygu a lledaenu gwybodaeth trwyddedig a chynnwys addysgol, diwylliannol a hanesyddol, a hynny am ddim. Gwneir hyn drwy ddod â chymunedau Wicimedia yr ynysoedd hyn at ei gilydd a thrwy adeiladu cysylltiadau gyda sefydliadau diwylliannol, prifysgolion, elusennau a chyrff eraill. Mae'r siaptr hefyd yn cynrychioli eu haelodau ar Sefydliad Wikimedia (Wikimedia Foundation) a'r mudiad yn fyd-eang.
Yn 2014 roedd y tâl aelodaeth yn £5.
Maiff Wicimedia DU eu hariannu'n gyfangwbwl gan gyfraniadau gwirfoddol, yn bennaf drwy gynllun codi arian Wicimedia. Maent yn fudiad cwbwl ar wahân i Sefydliad Wicimedia, ac nid oes genddynt reolaeth dros Wicipedia na'r un o chwiorydd neu brosiectau eraill y sefydliad hwn.